Anturiaethau Seiclo Anhygoel yng Ngorllewin Cymru
Mae ein gwyliau a'n teithiau beicio yn gwneud y gorau o dirwedd ogoneddus Cymru, o lwybrau mynyddig anhygoel a llynnoedd a chronfeydd anghysbell, i afonydd sy'n troelli drwy ddyffrynnoedd prydferth tuag at arfordir ysblennydd. Mae gennym anturiaethau beicio i bawb, o lwybrau hamddenol ar hyd lonydd a llwybrau gwledig tawel, i ddringfeydd mynyddig heriol a disgynfeydd cyffrous. Mae gennym y wybodaeth a'r arbenigedd lleol i'ch helpu chi i gynllunio'r daith seiclo berffaith. A phan fyddwch chi wedi gorffen ar y beic, fe gewch chi fwynhau lletygarwch Cymreig heb ei ail, gyda mannau gwych i aros, bwyta ac ymlacio. Gallwn ni'ch helpu i sicrhau fod eich antur seiclo nesaf yn un fythgofiadwy.
Ffocws ar...Fynyddoedd y Cambria
Rydym yn ffodus iawn i gael Mynyddoedd y Cambria ar garreg ein drws, un o'r ardaloedd mwyaf anghysbell, lleiaf poblog a gwyllt yng Nghymru. Dyma ardal o brydferthwch naturiol anhygoel sy'n cynnig seiclo ysblennydd....
Darllen mwy

Pam seiclo gyda Crys Melyn?
Beicio godidog
Ar ein teithiau cewch olygfeydd ysblennydd, tirweddau dramatig a llwybrau di-draffig.
Profiadol a gwybodus
Gall ein tîm profiadol sicrhau fod eich antur seiclo nesaf chi'n ddiffwdan a bythgofiadwy.
Rydym ni yma i chi
Gallwch ddibynnu arnom ni i'ch cynorthwyo ar ac oddi ar y beic.
Dim ond y gorau wnaiff y tro
Fe wnawn argymell y llwybrau, gorffwysfeydd, bwytai a'r gwelyau gorau.